Senario Rheolwr Adnoddau Dynol
Crewch prompt cryf fel fyswch yn briffio cydweithiwr amdan diwrnod AI sydd yn dod i fyny yn fuan.
Eich rôl: Rheolwr Adnoddau Dynol
Senario
Rydych chi’n Rheolwr Adnoddau Dynol mewn cwmni technoleg canolig ei faint gyda thua 120 o staff ar draws peirianneg, cynnyrch, gwerthu a gweithrediadau. Mis nesaf, mae’r sefydliad yn cynnal ei Ddiwrnod AI cyntaf erioed—diwrnod llawn i staff ddysgu am offer AI, profi syniadau, a chynnig ffyrdd o wella llif gwaith drwy AI.
Eich tasg yw drafftio e-bost mewnol clir yn cyhoeddi’r digwyddiad i’r holl staff. Dylech chi esbonio pwrpas y Diwrnod AI a pham ei fod yn digwydd nawr, nodwch y dyddiad, yr amser a’r fformat, a disgrifiwch beth sydd angen ei wneud ymlaen llaw, fel cofrestru ar gyfer sesiynau neu ddod â thasgau enghreifftiol i’w archwilio.
Dylech hefyd egluro sut fydd syniadau ac arbrofion y diwrnod yn cael eu casglu a’u dilyn i fyny, a nodi disgwyliadau am ymddygiad, diogelwch data, a defnydd cyfrifol o offer AI yn y sefydliad.
Ysgrifennwch prompt y byddech yn ei roi i gynorthwyydd AI i greu’r e-bost. Dylai’ch prompt gynnwys cyd-destun clir, cyfarwyddiadau penodol a chyfyngiadau perthnasol fel tôn, hyd a chynulleidfa, fel y gall yr AI gynhyrchu drafft cyntaf o ansawdd uchel.
Awgrym: Dychmygwch eich bod yn dirprwyo’r dasg hon i gydweithiwr newydd nad yw’n adnabod y cwmni’n dda eto. Pa wybodaeth fyddai ei hangen arnynt i gael yr e-bost yn iawn y tro cyntaf?